Mae Arwel Williams yn Syrfëwr Siartredig gyda dros 40 mlynedd o brofiad wrth gynnal arolygon proffesiynol a phrisio eiddo preswyl a masnachol yn Sir Gwynedd ac ar draws Gogledd Cymru. Ef yw prif bartner Tom Parry a’i Gwmni [& Co.]
Mae Arwel yn Gymrawd o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a Phriswr Cofrestredig.
Mae Phil Williams yn Syrfëwr Siartredig gyda thros 15 mlynedd o brofiad, gan dreulio y rhan fwyaf o’r amser yn Llundain yn gweithio i gynghorydd eiddo blaenllaw masnachol. Mae Phil wedi bod yn bartner o Tom Parry a’i Gwmni [& Co.] ers 2015 ac mae ganddo brofiad helaeth mewn arolygon a phrisiadau eiddo preswyl; rheoli prosiectau; adfeiliadau a chyngor ymgynghorol adeiladu arall.
Mae Phil yn Aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Mae Nicola Williams yn Syrfewr Siartredig gyda thros 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, ar ôl gweithio i gynghorydd eiddo masnachol blaenllaw yn y Gogledd Orllewin ac yn Llundain. Mae Nicola wedi arbenigo mewn Arolygon Adeiladu ers nifer o flynyddoedd. Ymunodd â Tom Parry & Co yn 2018 i ehangu ein tîm o Syrfewyr Siartredig sy'n cynnig cyngor proffesiynol o’n swyddfa ym Mhorthmadog.
Mae Nicola yn Gymrawd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Mae Marian ac Eleri yn rheoli ein swyddfa Blaenau Ffestiniog. Mae ganddynt brofiad cyfunol o dros 50 mlynedd yn y diwydiant ac mae eu hethos bob amser wedi bod yn darparu gwasanaeth proffesiynol a phersonol iawn, yn seiliedig ar onestrwydd a chywirdeb. Maent yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'w cleientiaid ac mae eu llwyddiant ac enw da dros y blynyddoedd wedi ennill busnes ailadroddus gan gleientiaid di-fwlch.
Julie Hughes yw Rheolwr Cangen Harlech. Ymunodd Julie â Tom Parry a’i Gwmni (& Co) yn 2015 ac mae wedi llwyddo i ehangu ein portffolio o eiddo yn ardal Harlech ers iddi ymuno. Mae gwybodaeth Julie o'r farchnad leol ac eiddo lleol yn golygu ei bod yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar werthoedd eiddo a gwerthiannau o Harlech i Abermaw.
Mae Irwyn ac Ellen yn rheoli swyddfa'r Bala. Mae ganddynt gyfoeth o brofiad yn y farchnad eiddo a chysylltiadau lleol cryf yn yr ardal. Mae Irwyn wedi bod yn prisio a chynghori cleientiaid ar faterion eiddo ers dros 40 mlynedd. Maent yn dîm ymroddedig ac yn sicrhau bod cleientiaid a darpar brynwyr yn cael eu trin mewn ffordd broffesiynol trwy ddarparu gwasanaeth cyfeillgar dwyieithog.
17 High Street,
Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd,
LL41 3AA
+44(0)1766 830126